Mae Cyngor Cymuned Llangybi yn cynrychioli ardal eang wledig sy’n cynnwys Ward Silian a Ward Llangybi.
Pentrefi bach sydd yn y gymuned, Silian, Betws Bledrws, Llangybi, â phentrefan Maes y felin ac Olmarch. Rhennir pentrefan Pont Creuddyn â Chyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad ac ardal Cockshead â Chyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
Mae heol A485 yn teithio drwy Ward Llangybi ac mae Ward Silian ar yr heol wledig rhwng yr A485 a A482 i Bont Creuddyn
Yng nghanol y gymuned saif oblesig hynafol “Tŵr y Dderi” a godwyd gan berchenog Plas y Dderi yn 1826.
Yn 1976 agorwyd Ysgol Ardal Gymunedol y Dderi yn dilyn cau pum ysgol gynradd yn yr ardal.
Ardal amaethyddol yw asgwrn cefn y gymuned, Mae hefyd yn enwog am fridio cobiau Cymreig o safon rhyngwladol.
Saif tair eglwys yn y gymuned, Sant Sulien yn Silian, Sant Bledrws ym Metws Bledrws a Sant Cybi yn Llangybi, tri chapel, Bethel yn Silian, Maesyffynon ac Ebenezer yn Llangybi, Saif capel hynafol y Cilgwyn yng nghanol pentref Llangybi, nid addoldy bellach ond canolfan chwaraeon i ieuenctid a phobl yr holl ardal.
O fewn y Ward mae amryw o fusnesau bach llewyrchus, un siop clwb golff a pharc carafanau, ac ar gyrion pentref Llangybi mae neuadd goffa.
Yn amgylchynu Cymmuned Llangybi, mae cymunedau Llanfair Clydogau, Llanbedr Pont Steffan, Llanfihangel Ystrad, Gartheli, Llangeitho a Llanddewi Brefi.